Ymchwilio i iechyd Cymru wledig

Mae’r Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn manteisio i’r eithaf ar ei lleoliad, yng nghanol cymuned wledig gorllewin canolbarth Cymru, i gyflawni gwaith ymchwil arloesol, llawn effaith fydd yn sail i ddarparu gofal iechyd gwledig ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Daw’r Ganolfan ag ysgolheigion o dair athrofa a phedair adran at ei gilydd; sef Seicoleg, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac mae cyfraniadau gan adrannau eraill hefyd yn cael eu datblygu.

Trwy weithio mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, mae’r ganolfan yn datblygu’r arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd i ystyried sut gall dulliau rhyngddisgyblaethol o weithio fod yn sail i ddeall a chyflenwi gofal iechyd o’r safon uchaf yn y dyfodol er mwyn cwrdd ag anghenion cymunedau gwledig.

Pobl

Mae’r Ganolfan yn hwyluso cydweithredu rhwng Prifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae pob un o’r sefydliadau hyn yn cyfrannu at bwyllgor llywio’r bwrdd iechyd i sicrhau bod y gwaith ymchwil a gyflawnir gan staff y ganolfan yn addysgiadol, yn arloesol ac yn cael effaith ar ymarfer clinigol.

Cyhoeddiadau

Mae’r canlynol yn rhestr o gyhoeddiadau sy’n berthnasol i waith pob thema ymchwil. Gall fod gan ymchwilwyr unigol gyhoeddiadau ychwanegol heb eu rhestru yma ac y gellir eu gweld trwy ddilyn y ddolen gyswllt i dudalennau staff unigol.

Ein Hymchwil

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gefndir eang mewn ymchwil iechyd ac ymchwil perthynol i iechyd yn ogystal ag arbenigedd mewn daearyddiaeth wledig a modelu data. Mae dod â’r meysydd arbenigedd hyn at ei gilydd yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Ymchwil Iechyd Gwledig yn cynnig dulliau arloesol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn sail i gyflenwi gofal iechyd pwrpasol o ansawdd uchel i bobl, ac yn cefnogi amgylchedd ymchwil deniadol ar gyfer cydweithwyr clinigol.

Sefydliadau partner