Mae gan Brifysgol Aberystwyth gefndir eang mewn ymchwil iechyd ac ymchwil perthynol i iechyd yn ogystal ag arbenigedd mewn daearyddiaeth wledig a modelu data. Mae dod â’r meysydd arbenigedd hyn at ei gilydd yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Ymchwil Iechyd Gwledig yn cynnig dulliau arloesol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn sail i gyflenwi gofal iechyd pwrpasol o ansawdd uchel i bobl, ac yn cefnogi amgylchedd ymchwil deniadol ar gyfer cydweithwyr clinigol.  Mae rhai enghreifftiau o’r gwaith cyfredol sy’n cael ei wneud a fydd yn sail i’r agenda ymchwil yn cael eu hamlinellu isod.


Gwasanaethau Gofal Technoleg uwch ac Arloesedd

Gweler technoleg ac arloesedd fel ffordd gadarnhaol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â gwledigrwydd yn ogystal â darparu cyfleoedd i symleiddio a gwella’r dulliau sensetif o sgrinio yn rheolaidd.

Archwilio yr ymchwil a’r effaith y gall technoleg ac arloesedd gynorthwyo cleifion gwledig er gwell mynediad i wasanaethau gofal iechyd a chyfleoedd i gael mynediad i gefnogaeth gymdeithasol yn ogystal ag ymchwilio a gwella technegau technoleg iechyd.


Iechyd cymunedau ac amgylcheddau gwledig

Mae byw mewn lleoliadau gwledig yn gallu bod yn baradwys. Gall hefyd achosi nifer o heriau i’r cymunedau amrywiol sy’n byw oddi mewn iddynt. Mae’r rhaglen ymchwil hon yn edrych ar y rhyngweithio rhwng yr amgylchedd gwledig ac iechyd, rhag ymwneud â’r awyr agored i recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol digonol i weithio mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal ag archwilio anghenion a iechyd poblogaethau gwledig penodol.


Rheoli afiechyd cronig ac addysg iechyd

Gan fod natur y boblogaeth gymuned wledig yn heneiddio, golyga hyn bod nifer o bobl mewn cymunedau gwledig yn byw gyda neu sydd mewn perygl o gael clefyd cronig yn cynyddu’n gyflym. Gyda’r rhwystrau daearyddol ychwanegol i gael mynediad at wasanaethau arbenigol mae’r angen i gleifion gwledig allu hunan-reoli eu cyflyrau yn effeithiol efo dealltwriaeth dda o’u hiechyd yn hanfodol.