Mae’r prosiectau isod yn rhoi syniad am y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yn unol â’r thema hon.


Negodi sgwrs a rhyngweithio trwy fideogynadledda mewn therapi iaith a lleferydd: Astudiaeth dadansoddi sgwrs

Ymchwilydd: David Dalley (myfyriwr PhD);
Goruchwylwyr: Dr Rachel Rahman a Dr Antonia Ivaldi; Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Ms Sali Curtis; Therapydd Iaith a Lleferydd  Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg dan gontract i  Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dros y 40 mlynedd diwthaf, cyflwynwyd technolegau teleiechyd i amrywiaeth o feysydd gofal iechyd. Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos sut gall ansawdd y rhyngweithio rhwng darparwyr gofal iechyd a chleifion ddylanwadu ar ddealltwriaeth y claf o wybodaeth feddygol, canfyddiadau o’i ddiagnosis ac ansawdd bywyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i therapi iaith a lleferydd, lle gall sgwrsio fod yn her beth bynnag, a gall fod angen gwahanol ddulliau o gyfathrebu. Mae cyflwyno teleiechyd i’r rhyngweithiau hyn yn ychwanegu deinameg ychwanegol i’w negodi yn y sgwrs. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut mae cyfathrebu a rhyngweithiau rhwng therapyddion iaith a lleferydd a chleifion yn cael eu negodi wrth gyflwyno sesiynau trwy deleiechyd. Mae’r ymchwil yn defnyddio recordiadau clyweledol naturiolaidd o ymgynghoriadau teleiechyd iaith a lleferydd i ddadansoddi’r sgwrs a’r ystumiau dieiriau rhwng y therapydd a chleifion cydsyniol gan ddefnyddio dadansoddi sgwrs. Bydd hyn yn galluogi gwell dealltwriaeth o arfer gorau i hwyluso cyfathrebu effeithiol mewn ymgynghoriadau teleiechyd.


Teleiechyd i hwyluso cymorth seicogymdeithasol grŵp ar gyfer cleifion gwrthimiwnedd mewn lleoliad gwledig

Prif Ymchwilydd: Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth
Cyfranwyr: Ms Martine Robson, Dr Antonia Ivaldi; Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Ms Gudrun Jones, Therapydd celf; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae cymorth cymdeithasol yn elfen hanfodol o driniaeth cleifion gwrthimiwnedd sy’n cael cemotherapi. Fodd bynnag, gall teithio i leoliad cymunedol i gael cymorth grŵp ychwanegu at flinder a risg o heintiau i gleifion bregus ag imiwnedd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig lle mae nifer yr oriau teithio i gael mynediad at wasanaethau yn sylweddol uwch ac yn ychwanegu at flinder, ac mae daearyddiaeth wledig yn cynyddu’r risg o ynysrwydd cymdeithasol pan nad yw’r gwasanaethau hyn ar gael. Sefydlodd y rhaglen ymchwil ganlynol wasanaeth newydd i roi’r cyfle i gleifion gwledig fod yn rhan o therapi celf grŵp o’u cartrefi eu hunain trwy dechnoleg fideogynaledda teleiechyd. Nod yr ymchwil yw archwilio profiad cleifion a’r therapydd o therapi grŵp yn y modd hwn a sut mae therapi celf grŵp a sgwrs yn cael eu negodi o’u gyflwyno trwy deleiechyd.


Derbynioldeb cleifion a gweithwyr proffesiynol o deleiechyd i fonitro Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) a Diabetes

Prif Ymchwilydd: Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth
Cyfranwyr: Dr Joseph Keenan, Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Yr Athro Keir Lewis, Dr Sam Rice, Ms Claire Hurlin, Ms Sarah Hicks; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Roedd yr astudiaeth hon yn rhan o brosiect mwy a reolwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o brosiect dan nawdd y Comisiwn Ewropeaidd, ‘Unedig dros Iechyd / United for Health’. Defnyddiwyd hap-dreial wedi’i reoli o dechnolegau telefonitro Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint a Diabetes, gan archwilio ystod o ddeilliannau clinigol a lles. Er hynny, er mwyn i deleiechyd gyflawni ei botensial wrth annog ymddygiad a hunanreolaeth ymreolaethol ymysg cleifion, rhaid i gleifion a gweithwyr proffesiynol iechyd dderbyn technoleg yn y gwasanaethau a ddarperir. Comisiynwyd yr ymchwil gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel gwerthusiad annibynnol o brofiad cleifion a darparwyr gofal iechyd a fu’n rhan o’r treial o’r technolegau telefonitro a pha mor dderbyniol oeddent i’w hymgorffori yn y gwasanaethau a ddarperir, yn eu barn nhw.

Cyhoeddiadau perthnasol:

Rahman, R., & Keenan, J. 2016. Patient and professional acceptability of telehealth to monitor COPD and diabetes. European Health Psychology Society and BPS Division of Health Psychology Annual Conference 2016, Aberdeen, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 23/09/2016 – 27/09/2016. pp. 622
Rahman, R., & Keenan, J. (2015). Patient and professional acceptability of telehealth to monitor COPD and diabetes. Commissioned report for Hywel Dda UHB.


Defnyddio teleiechyd i ddarparu cymorth seicogymdeithasol mewn gofal lliniarol

Ymchwilydd: Dr Joseph Keenan (ymchwil PhD)
Goruchwylwyr: Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth a Dr Joanne Hudson, Prifysgol Abertawe
Cydweithredwyr Allanol: Ms Gudrun Jones, Therapydd Celf, a Dr Gokul, Meddyg Gofal Lliniarol.

Mae defnyddio teleiechyd wedi datblygu fel ffordd bosibl o oresgyn rhwystrau sefydliadol a daearyddol o gyflenwi gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. I gleifion gofal lliniarol a’u gofalwyr, gall cael mynediad at gymorth seicogymdeithasol fod yn elfen hanfodol o’r gofal. Fodd bynnag, oherwydd bod mwy o deithio i’r claf neu’r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd gall fod mynediad at y cymorth hwn yn gyfyngedig neu ddim yn bodoli o gwbl.  Er bod teleiechyd yn gallu cynnig ateb hyfyw, gall natur sensitif gofal diwedd bywyd a gofal lliniarol olygu fod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn amharod i gynnig yr hyn y gellir ei ystyried yn gymorth eilradd.  Mi wnaeth y rhaglen ymchwil uwchraddedig hon archwilio rhwystrau a hwylusyddion gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i ddefnyddio technolegau teleiechyd mewn gofal llinarol a’u cymharu gyda phrofiadau byw grŵp o gleifion a gafodd gymorth seicogymdeithasol trwy fideogynadleddau teleiechyd dros gyfnod o dri mis.

Cyhoeddiadau perthnasol:

Keenan, J., Rahman, R., Hudson, J. 2016. Experiences of palliative care patients accessing psychosocial support through telehealth. European Health Psychology Society and BPS Division of Health Psychology Annual Conference 2016, Aberdeen, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 23/09/2016 – 27/09/2016. pp. 485.
Keenan, J., Rahman, R., Hudson, J. 2015. Exploring palliative care patients’ experiences of accessing psychological support through telehealth. 15th Annual All Wales Palliative Care Conference, Newtown, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 08/10/2015 – 09/10/2015.
Keenan, J.R., Rahman, R., Hudson, J. 2014. Exploring psychological underpinnings of medical professionals’ perceptions of telehealth implementation in palliative care. European Health Psychology Society conference, Innsbruck, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 18/09/2016.