Mae’r prosiectau canlynol yn rhoi syniad o’r ymchwil cyfredol.


Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig â sicrhau gweithlu nyrsio mewn ardaloedd gwledig?

Ymchwilydd: Angharad Jones (myfyriwr PhD ac ymarferydd nyrsio Hywel Dda);
Goruchwylwyr: Dr Rachel Rahman a Dr OJ Jiaqing; Prifysgol Aberystwyth

Mae cyflenwi gofal iechyd o safon o’r pwys mwyaf i bob darparwr gofal iechyd, ond i rai darparwyr, mae’r heriau sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r gwasanaeth yn waeth oherwydd problemau daearyddol. Mae ardaloedd gwledig ac anhaeddiannol yn wynebu problemau cynyddol wrth recriwtio a chadw staff iechyd.  Mae hyn yn arbennig o wir yn sgil y newid i ganolbwyntio ar ganoli gwasanaethau mewn ardaloedd trefol o boblogaeth niferus. Bydd y rhaglen ymchwil uwchraddedig hon yn archwilio’r heriau a’r rhwystrau wrth ddenu nyrsys i ganolbarth gwledig Cymru.


Adnabod anghenion gofal anffurfiol gwledig cleifion gofal lliniarol trwy archwilio’u profiad o fyw.

Ymchwilydd: Dr Joseph Keenan (ymchwil PhD)
Goruchwylwyr: Dr Rachel Rahman,  Prifysgol Aberystwyth a Dr Joanne Hudson, Prifysgol Abertawe
Cydweithredwyr Allanol: Ms Gudrun Jones, Therapydd Celf, a Dr Gokul, Meddyg Gofal Lliniarol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cynhaliwyd nifer o astudiaethau yn ymchwilio i anghenion hysbys a phrofiadau cleifion gofal lliniarol a’u teuluoedd (Clark & Seymour, 2010). Er ei bod hi’n ymddangos fod patrwm o anghenion cyffredinol yn bodoli, mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod yr anghenion a’r profiadau hyn yn amlygu’u hunain yn wahanol i unigolion oherwydd ffactorau demograffig a daearyddol.  Awgrymodd Robinson, Pesut, a Bottorff (2010) y gallai byw mewn cymunedau gwledig penodol ddylanwadu ar sut mae cleifion a gofalwyr anffurfiol yn gwneud synnwyr o’u hanghenion. Gan gadarnhau’r awgrymiadau a wnaed gan Longley, Llewellyn, Beddow, ac Evans (2014) fod angen gwneud mwy o waith ymchwil a fyddai’n canolbwyntio ar ddeall anghenion a phrofiadau cleifion a gofalwyr, yng nghyd-destun gwledig penodol y canolbarth. Archwiliodd y gwaith ymchwil hwn anghenion gofalwyr gwledig cleifion gofal lliniarol trwy ddeall eu profiad o fyw.

Cyhoeddiadau perthnasol:

Keenan, J.R., Rahman, R., Hudson, J. 2014. Identifying the needs of rural based informal care givers of palliative care patients through exploration of their lived experience. BPS Division of Health Psychology conference, York, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 10/09/2014 – 12/09/2014. Other

Keenan, J., Rahman, R., Hudson, J. 2014. Investigating the psychological well-being and need satisfaction of the informal caregivers of palliative care patients through exploration of lived experiences. BPS Psychology Postgraduate Affairs Group Annual Conference 2014, Cardiff, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 23/07/2014 – 25/07/2014.


Agweddau pobl ifainc tuag at iechyd a diogelwch ar ffermydd

Prif Ymchwilydd: Dr Hefin Williams, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
Cyfranwyr: Mr Llyr Jones, Swyddog Iechyd a Diogelwch a Dr Rachel Rahman,  Prifysgol Aberystwyth

Mae’r gymuned ffermio yn cwmpasu canran uchel o’r boblogaeth wledig. Er gwaethaf gweithdrefnau cynyddol o iechyd a diogelwch, mae damweiniau ar ffermydd yn parhau i fod yn brif destun pryder i’r gymuned hon. Nod y gwaith ymchwil hwn yw adnabod a datblygu dealltwriaeth o ganfyddiaeth ffermwyr ifainc yng Nghymru o Iechyd a Diogelwch yn y sector amaethyddiaeth, a sut y’i rhagwelant yn datblygu yn y dyfodol, a sut gallai ymddygiad a diwylliant presennol ffermwyr ifainc effeithio ar ddatblygiad iechyd a diogelwch mewn ardaloedd gwledig yn y dyfodol.  Anelwn hefyd at adnabod ffactorau a allai amlygu risg uwch o anaf a phroblemau diogelwch negyddol i bobl ifainc yn y diwydiant amaeth.

Os ydych yn dod o’r gymuned ffermio a bod gennych ddiddordeb mewn cyfrannu i’r gwaith ymchwil hwn, gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein trwy ddilyn y ddolen gyswllt hon: https://yfc-safety.ibers.aber.ac.uk/


Sut gall theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifainc fynd i’r afael â materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifainc mewn cymunedau gwledig.

Ymchwilydd: Alaw Gwyn Rossington  (myfyrwraig PhD) Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Goruchwylwyr: Dr Elin Haf Jones Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Cwmni Arad Goch (mudiad theatr ieuenctid Cymreig).