Ar ddydd Mercher 29 Ionawr, lansiodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ei ‘ rhwydwaith astudiaethau Cymru ‘ gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud i ddeall Cymru a’i chysylltiadau â’r byd ehangach. Roedd y digwyddiad yn croesawu ymchwilwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys myfyrwyr uwchraddedig a gafodd i wahodd i arddangos eu gwaith ymchwil. Cafodd Angharad Jones, un o’n huwchraddedigion yn y Ganolfan am Ragoriaeth yn Ymchwil Iechyd Gwledig i ddewis i gyflwyno’i ymchwil yn ymchwilio i’r rhwystrau i recriwtio nyrsys gwledig. Rydym wrth ein boddau bod Angharad, ymhlith cystadleuaeth frwd, wedi cael y wobr gyntaf ar y cyd am ei phoster ‘Excitement of the city: Perspectives from Welsh urban nurses on the rural recruitment challenge’. Mae’r ganolfan yn ei llongyfarch ar ei champ a’i hymchwil barhaus.