Gwella Iechyd a Lleihau Anghysondeb yng Nghanolbarth Cymru Wledig
Bydd Y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfarfod agored ar: Dydd Iau, 5ed o Ebrill, 2018 am 6y.h – 7.30y.h Lleoliad i’w gadarnhau.
Darperir lluniaeth ysgafn
Mae’r cyfarfod yn agored i holl drigolion Canolbarth Cymru
Mae ardaloedd gwledig yn dueddol o adrodd am ganlyniadau iechyd gwell nag ardaloedd trefol, gyda disgwyliad oes uwch a chyfraddau is o farwolaethau cynamserol. Serch hynny, mae gan ardaloedd gwledig heriau a all gyfrannu at ganlyniadau iechyd tlotach, a gallai’r rhain effeithio’n anghyfartal ar rai lleoliadau a phoblogaethau.
Rydym yn awyddus i glywed eich sylwadau am rai o heriau iechyd a lles o fyw yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r ganolfan yn chwilio am wybodaeth a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio meysydd blaenorol mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gwledig ar gyfer ymyriadau nad ydynt yn ymwneud â’r GIG.
Os hoffech fynychu, cofrestrwch drwy anfon e-bost at: ruralhealth@aber.ac.uk neu ffoniwch: 01970 622 643 neu 01970 621 749 erbyn Dydd Mercher 28ain, 2018. Cofiwch gynnwys eich enw llawn a manylion cyswllt.
Croeso Cynnes i Bawb