Gofal iechyd yng Nghymru wledig: yr heriau a’r cyfleoedd

Ddydd Mawrth 5 Rhagfyr 2017, bydd y Gwasanaeth Ymchwil, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal Seminar Cyfnewid Syniadau ynghylch yr heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n deillio o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru.

Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan Dai Lloyd AC, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad. Cynhelir y seminar, sy’n rhad ac am ddim ac ar agor i’r cyhoedd, ym mhrif neuadd y Pierhead ym Mae Caerdydd rhwng 12:00 a 13:30. Ewch i’r dudalen Eventbrite i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.

Beth yw’r cefndir polisi?

Yn ôl GIG Cymru, dwy nodwedd arbennig sy’n gwahaniaethu rhwng y sefyllfa wledig a’r sefyllfa drefol yng Nghymru, ac mae’r ddwy ohonynt yn cael effaith ar gyflyrau iechyd.

Y rhain yw:

  • Y broblem o fynediad at wasanaethau i’r rheini sy’n byw yn y cymunedau mwy anghysbell
  • Anawsterau o ran integreiddio gwasanaethau a ddarperir i’r unigolyn lle mae rhai’n cael eu darparu gan y GIG ac eraill yn cael eu darparu gan lywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.

Mae recriwtio a chadw staff iechyd a gofal mewn ardaloedd gwledig hefyd yn peri pryder mawr. Mae Ysgol Feddygol Abertawe yn cynnig rhaglen Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol (RRHIME), sy’n anelu at gynyddu nifer y myfyrwyr a meddygon sy’n gweithio yng nghefn gwlad Cymru a chodi ymwybyddiaeth ymhlith y myfyrwyr o’r manteision a’r realiti o fyw a gweithio mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Mae Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi ymgymryd ag amryw o fentrau i fynd i’r afael â’r anghenion iechyd a gofal penodol sydd gan ardaloedd gwledig yng Nghymru. Yn 2009, cyhoeddwyd Cynllun Iechyd Gwledig – Darparu Gwasanaethau yn Well ar draws Cymru. Prif themâu’r cynllun hwn oedd mynediad, integreiddio a chydlynu cymunedol. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ar weithredu’r cynllun ym mis Ionawr 2012.

Ym mis Ionawr 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth gofal iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel yn y Canolbarth. Roedd yr anghenion gwahanol sydd gan gymunedau gwledig a heriau trawsffiniol y rhanbarth hwn yn awgrymu bod angen adolygu’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Ym mis Hydref 2014, cyhoeddwyd Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru, a wnaeth ddeuddeg argymhelliad.

Un o argymhellion yr astudiaeth oedd y dylai’r tri Bwrdd Iechyd sy’n gyfrifol am ardal y Canolbarth, gan weithio gyda’r prifysgolion lleol a phartneriaid eraill, ddatblygu a chefnogi “canolfan ragoriaeth mewn gofal iechyd gwledig”. Yr argymhelliad ar gyfer y ganolfan hon oedd y dylai ganolbwyntio ar “ymchwil, datblygu a lledaenu tystiolaeth ym maes ymchwil i’r gwasanaeth iechyd sy’n delio â sialensiau penodol Canolbarth Cymru”.

Cafodd Canolfan Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig ei lansio’n ffurfiol ym mis Mawrth 2016, a ailenwyd yn ddiweddarach yn “Iechyd a Gofal Gwledig Cymru“(IGGC) ym mis Mawrth 2017.

Beth fydd y seminar yn ei ymchwilio iddo?

Bydd y siaradwyr yn canolbwyntio ar y canlynol

  • Anghenion iechyd a gofal y boblogaeth wledig
  • Materion ynghylch recriwtio a chadw staff iechyd a gofal.
  • Potensial technoleg i fynd i’r afael ag ynysu ac anghydraddoldebau gwledig (gan gynnwys teleiechyd/telefeddygaeth/rhagnodi gwyrdd)
  • Iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig

Pwy fydd yn siarad yn y seminar?

Dyma’r siaradwyr:

Dr John Wynn-Jones sydd wedi bod yn feddyg teulu yng nghefn gwlad Cymru ers 37 mlynedd. Mae bellach wedi ymddeol o ymarfer clinigol ond mae’n parhau i weithio’n rhan amser ym Mhrifysgol Keele fel uwch-ddarlithydd mewn iechyd gwledig a byd-eang.

Mae hefyd wedi cadeirio Gweithgor Gwledig Sefydliad Meddygon Teulu y Byd (Wonca) ers 2013. Enillodd Fedal Llywydd Rhyngwladol Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu eleni am ei waith yn hyrwyddo meddygaeth deuluol ledled y byd. Bydd Dr Wynn-Jones yn canolbwyntio’n arbennig ar faterion ynghylch recriwtio a chadw staff iechyd a gofal.

Dr Rachel Rahman yw Cyfarwyddwr y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n uwch-ddarlithydd yn yr Adran Seicoleg. Mae gan Rachel brofiad helaeth o gynnal gwaith ymchwil gan ddefnyddio methodoleg feintiol ac ansoddol i ddeall cymhellion a phrofiadau cleifion ym maes clefydau cronig a gofal diwedd oes.

Mae Dr Rahman wedi gwneud ystod o ddarnau o waith ymchwil a gomisiynwyd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cyllido Cymru, ac mae’n cyfrannu at agenda Llywodraeth Cymru o ofal iechyd darbodus drwy ddatblygu mewnwelediadau unigryw i’r defnydd o wasanaethau gofal sy’n cael eu gwella gan dechnoleg mewn ardaloedd gwledig. Bydd hi’n siarad am faterion ynghylch cefnogaeth i’r seilwaith iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaethau gofal effeithiol sy’n cael eu gwell gan dechnoleg mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Bydd Anna Prytherch, Rheolwr Prosiect Canolfan Iechyd Gwledig a Gofal Cymru, yn rhoi trosolwg o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol y boblogaeth wledig, ac yn adrodd ar y prif faterion dan sylw yn y Gynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig (“Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynaliadwy mewn Lleoedd Gwledig ac Anghysbell”) a gynhelir ar 14 Tachwedd 2017.

Mae gan Anna dros 20 mlynedd o brofiad rheoli a rheoli prosiect uwch mewn sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes addysg fel Rheolwr Dysgu Galwedigaethol ac mae wedi bod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth. Mae gan Anna ddiddordeb brwd mewn materion gwledig a chymunedol.

Joy Garfitt yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dechreuodd Joy ei swydd yn 2016 ac ers hynny mae wedi llwyddo i ddychwelyd gwasanaethau iechyd meddwl o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn gwella’r gwasanaethau a ddarperir i bobl leol.

Yn ei hanerchiad, bydd Joy yn rhannu rhai enghreifftiau a dysgu yn seiliedig ar gamau cychwynnol taith Powys i wella gwasanaethau iechyd meddwl, ac yn trafod pam mae angen darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn gofyn am gynlluniau ac atebion lleol, a sut gallwch feithrin cryfderau a gwytnwch cynhenid ein cymunedau a gwytnwch i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd addas a gwella canlyniadau.

 diddordeb ond yn methu ag ymuno â ni ar y diwrnod?

Rydym yn awyddus i glywed pa gwestiynau yr hoffech glywed ein siaradwyr yn eu hateb. Gallwch chi anfon y rhain ymlaen llaw drwy e-bost at CyfnewidSyniadau@cynulliad.cymru neu drwy Twitter gan ddefnyddio #CyfnewidSyniadau / #ExchangingIdeas@SeneddYmchwil.

Byddwn yn gwneud recordiad fideo o’r seminar ac yn ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad ar ôl y digwyddiad.