Diolch am ddangos diddordeb yn yr astudiaeth ‘Deall effaith Covid-19 ar iechyd meddwl, ymdopi a lles staff y GIG.’
Mae’r dudalen we hon i chi gyfeirio ati os hoffech atgoffa’ch hun o ddeunydd neu ddolenni cysylltiedig a’r astudiaeth.
Defnyddio Ap i-phone / i-pad yr astudiaeth
Os oes gennych i-ffôn neu i-pad yna byddwch chi’n gallu cyrchu’r holl ddeunyddiau isod trwy’r Ap. Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnal yr Ap (oherwydd nad yw’n agored i’r cyhoedd) ac felly i gofrestru i gael mynediad i’r App, rhowch e-bost i ni gan ddefnyddio’r cyfleuster isod. Ni fydd yn bosibl i ni gysylltu’r e-bost hwn ag unrhyw ymatebion Ap ac felly ni fydd hyn yn nodi’ch data mewn unrhyw ffordd.
Os nad oes gennych fynediad i-ffôn neu i-pad yna gallwch gyrchu gwahanol gydrannau’r astudiaeth trwy’r dolenni ar y dudalen hon
Y tro cyntaf i chi gwblhau’r arolwg
- Os nad ydych eto wedi cofrestru ar gyfer yr astudiaeth ac wedi rhoi caniatâd gwybodus i gymryd rhan yna dilynwch y ddolen hon i’r arolwg. Peidiwch â chyrchu unrhyw un o’r dolenni isod nes bod y broses gyntaf hon wedi’i chwblhau a pheidiwch â chwblhau’r fersiwn hon o’r arolwg am yr eildro. Darperir dolen wahanol ar gyfer arolygon dilynol yn y dyfodol. https://aber.onlinesurveys.ac.uk/astudiaeth-lles-a-covid-19
- Ar ôl cwblhau’r arolwg uchod, cwblhewch y dasg wybyddol fer hon hefyd. Dilynwch un o’r dolenni hyn yn dibynnu ar y math o offer y mae gennych fynediad iddo: Y porwr argymelledig ar gyfer tasg yw Chrome.
Fersiwn bwrdd Gwaith (PC)
Gwybodaeth ddilynol (rhwng 1af a 14eg bob mis)
Ar ôl cwblhau’r arolwg sylfaenol cyntaf (uchod) byddem yn eich gwahodd i gwblhau arolwg tebyg (ond byrrach!) bob mis. Os gwnaethoch ddarparu cyswllt e-bost i ni yna byddwn yn anfon e-bost atoch i’ch atgoffa a byddwn yn cynnwys y ddolen i’r holiadur diweddaraf. Os gwnaethoch ddewis peidio â darparu cyswllt e-bost yna gallwch gyrchu’r ddolen i arolygon dilynol misol yma.Bydd arolygon yn parhau ar agor rhwng y 1af a’r 14eg o bob mis ac ar ôl hynny bydd yr arolwg yn cau tan y mis canlynol. Nid yw colli mis yn eich atal rhag cymryd rhan mewn arolygon misol diweddarach.
Dilynwch y ddolen i’r arolwg diweddaraf yma: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/covid-19-well-being-study_repeat
Hoffem hefyd ichi gyflawni’r dasg wybyddol ar yr un pwyntiau â’r arolygon misol. Dilynwch un o’r dolenni hyn yn dibynnu ar y math o offer sydd gennych fynediad iddo: Y porwr argymelledig ar gyfer y dasg yw Chrome.
Fersiwn bwrdd Gwaith (PC)
Cwblhewch unrhyw amser (Cofnodion dyddiadur):
Bydd y dyddiadur ar gael unrhyw bryd yn ystod y mis. Gallwch gyrchu’r dyddiadur i ddarparu cofnod mor aml ag y dymunwch. Ceir mynediad i’r dyddiadur trwy’r ddolen hon.
https://aber.onlinesurveys.ac.uk/dyddiadur-covid-19-staff-gig
Gwybodaeth atgoffa
- Mae nodyn atgoffa o’r daflen wybodaeth cyfranogwyr i’w gweld yma:
- Darperir nodyn atgoffa o eitemau’r ffurflen ganiatâd yma
- Mae nodyn atgoffa o’r fformiwla i’ch ffugenw hunan-gynhyrchiedig i’w gael isod:
- Dyddiad cofiadwy a phersonol DDMM (e.e., os Ionawr 5ed, yna 0501)
- Tri digid cyntaf athro cofiadwy (e.e., os MrParsons, yna PAR)
- Tri digid olaf eich rhif ffôn symudol neu gartref
Gwybodaeth bellach.
Os hoffech wneud unrhyw ymholiadau pellach am yr ymchwil hon, cysylltwch â’r ymchwilydd arweiniol Dr Rachel Rahman rjr@aber.ac.uk, 01970 621749
Os ydych chi am gwyno am sut mae ymchwilwyr wedi trin eich gwybodaeth, dylech gysylltu â’r tîm ymchwil. Os nad ydych yn hapus ar ôl hynny, gallwch gysylltu â Dr Rhys Thatcher sef y prif gynrychiolydd noddwr ar ran Prifysgol Aberystwyth: Manylion cyswllt: Dr Rhys Thatcher, Prifysgol Aberystwyth, ryt@aber.ac.uk, 01970 628630. Os arhoswch yn anfodlon, efallai yr hoffech gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae manylion cyswllt, a manylion hawliau gwrthrych data, ar gael ar wefan yr ICO yn: https://ico.org.uk/for-organisations/data-protection-reform/overview-of-the-gdpr/individuals-rights/
Ffynonellau cefnogaeth.
Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o gefnogaeth gydag unrhyw un o’r materion a drafodir yn yr ymchwil hon neu’n fwy cyffredinol, mae Hywel Dda yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth mewnol sydd ar gael i’w gweld ar eu mewnrwyd fewnol gan gynnwys y Gwasanaeth Lles Seicolegol Staff, gallwch gysylltu â nhw ar 01437 772527 neu wellbeing.hdd@wales.nhs.uk yn ogystal â Care First y rhaglen cymorth gweithwyr.
Efallai y bydd y gwasanaethau allanol canlynol hefyd yn gallu helpu:
Gellir cysylltu â’r Samariaid ar unrhyw adeg o’r dydd ar 116 123
Mae Mind yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl a gellir cysylltu â nhw ar 0300 123 3393 info@mind.org