Hybu Hunanreolaeth a Mynychu Sesiynau Adsefydlu’r Ysgyfaint trwy Ymyrraeth Ffilm Ddigidol yn defnyddio Theori Hunanbenderfyniad.
Ymchwilydd: Liam Knox (myfyriwr PhD);
Goruchwylwyr: Dr Rachel Rahman a Dr Gareth Norris; Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr allanol: Yr Athro Keir Lewis, Dr Sam Rice, Ms Carol-Anne Davies, Ms Claire Hurlin, a Ms Sarah Hicks; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DDa a Ms Kimberly Littlewood; Cyfryngau Digidol E-Iechyd
Mae’r ymchwil hwn yn ystyried a all rhoi presgripsiwn am ffilmiau digidol ar-lein byr, wedi’u cynllunio i wella gwybodaeth a dealltwriaeth cleifion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn ogystal ag ymgorffori egwyddorion theori ysgogol wella gallu cleifion i reoli eu cyflwr eu hunain a gwella’r niferoedd sy’n mynychu sesiynau adsefydlu’r ysgyfaint. Mae’r ymchwil yn archwilio’r effaith ar statws iechyd cleifion, gwybodaeth am glefydau ac ansawdd bywyd.
Lleihau Nifer Achosion Cyn-Diabetes yn dilyn Ymgynghoriad Un-i-Un trwy Feddygfa’r Teulu
Ymchwilydd: Dr Rhys Thatcher, Mr Nicholas Gregory; Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Clwstwr Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion (Meddygfa’r Llan, Ystwyth, Padarn, Borth, Tanyfron, Tregaron a Llanilar); Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff; Bwyd doeth am byth.
Cloriannodd y Prosiect effeithiolrwydd ymgynghoriad un-i-un am hanner iawn ar gyfer y rheiny sydd wedi’u dynodi’n gyn-ddiabetig. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gyda nyrs o feddygfa’r meddyg teulu yn y feddygfa gan dargedu addysgu’r claf ac addasu’i ffordd o fyw. Mesurwyd canlyniadau yn cynnwys lefel gliwcos ynghlwm wrth yr hemoglobin (HbA1c), màs y corff, Mynegai Màs y Corff, cylchedd y canol a phwysau gwaed.
Cloriannu Rhaglen o Hunanreoli Diabetes: Astudiaeth Ddichonoldeb
Ymchwilydd: Dr Rhys Thatcher, Dr Ffion Curtis; Prifysgol Aberystwyth
Cydweithredwyr Allanol: Dr Sam Rice, Ms Claire Hurlin; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Astudiaeth ddichonoldeb chwe mis oedd hon a gwerthusiad proses o Raglen Hunanreoli Diabetes Stanford. Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan berson lleyg ac yn cael ei chyflwyno mewn un sesiwn ddwy awr a hanner yr wythnos am chwech wythnos yn y gymuned. Mesurwyd canlyniadau yn cynnwys lefel gliwcos ynghlwm wrth yr hemoglobin (HbA1c), Risg o Glefyd Cardiofasgwlaidd, gweithrediad yr arennau, proffil Lipidau a holiaduron i asesu Cred Iechyd, Ansawdd bywyd, Hunaneffeithiolrwydd, Iselder, Grymuso a statws Iechyd.
CYHOEDDIADAU:
Rheoli Afiechyd Cronig ac Addysg Iechyd