Mae’r gyfres seminarau yn cynnig cyfle i ddod â rhwydwaith ehangach o bobl sydd â diddordebau mewn iechyd gwledig a gofal cymdeithasol ynghyd i rannu eu hymchwil, neu gyfleoedd ar gyfer ymchwil.
Cyflwynir seminarau gan academyddion Prifysgol Aberystwyth, staff lleol o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â siaradwyr allanol gyda’r bwriad o gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol gydweithredol.
Mae croeso cynnes i bawb.
Os hoffech gynnig bod yn siaradwr neu os hoffech gael rhywfaint o wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â ruralhealth@aber.ac.uk
Ceir gwybodaeth am yr amserlen yma, gyda manylion am bob seminar pob mis isod.