Digwyddiad ‘rhwydweithio chwim’ i ddod o hyd i’r partner ymchwil perffaith

Cynhaliwyd digwyddiad ‘rhwydweithio chwim’ yn ddiweddar rhwng academyddion o Brifysgol Aberystwyth a staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n chwilio am eu partner ymchwil perffaith.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 20 Medi 2019, yn gydweithrediad rhwng y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig (GRYIG) ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.

Bu’r digwyddiad rhwydweithio yn gyfle i ymchwilwyr o’r Brifysgol gyfarfod â chydweithwyr clinigol sy’n awyddus i ddatblygu agenda ymchwil.

Esboniodd Dr Rachel Rahman, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg a Chyfarwyddwr GRYIG: “Un o amcanion y Ganolfan yw meithrin cysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol a’r ysbyty, fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio ar ymchwil yn ogystal â’r posibiliadau o safbwynt addysgu a darparu lleoliadau gwaith yn y dyfodol. Yn ogystal â chryfhau’r effaith y mae ymchwil y Brifysgol yn ei chael ar y modd y darperir gwasanaethau iechyd lleol, mae datblygu diwylliant ymchwil cryfach hefyd yn allweddol er mwyn helpu i wneud Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn lle mwy deniadol i weithio ynddo i staff clinigol a staff iechyd cysylltiedig.”

“Mae pawb yn brin o amser, ac weithiau yr unig beth sydd ei angen yw cyfle i gwrdd â’r bobl iawn i’n helpu i wireddu ein syniadau. Nod y digwyddiad rhwydweithio chwim yw darparu’r cyfle hwnnw, ond heb gymryd gormod o amser pawb.”

“Rydym eisoes yn gweld cyfleoedd diddorol i gynnal ymchwil yn y dyfodol sydd wedi datblygu o ganlyniad i’r digwyddiad, a fydd gobeithio, o fudd i’r gymuned leol”, ychwanegodd Dr Rahman.

Nod y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig yw cyflawni gwaith ymchwil arloesol, llawn effaith a fydd yn sail i ddarparu gofal iechyd gwledig ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Daw’r Ganolfan ag ysgolheigion o bedair adran at ei gilydd; sef Seicoleg, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac mae cyfraniadau gan adrannau eraill hefyd yn cael eu datblygu.

Trwy weithio mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, mae’r Ganolfan yn datblygu’r arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd i ystyried sut gall dulliau rhyngddisgyblaethol o weithio fod yn sail i ddeall a chyflenwi gofal iechyd o’r safon uchaf yn y dyfodol er mwyn cwrdd ag anghenion cymunedau gwledig.