Cyfres Seminar Y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig
Dydd Gwener Hydref 13eg 12.30-1.30yp;
Canolfan Ôl-raddedig Ysbyty Bronglais
Luis A. J. Mur, Adrian Mironas, a Keir Lewis
Yn ystod y sgwrs byddwn yn disgrifio’r cydweithrediad rhwng gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a chlinigwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n anelu at ddefnyddio technegau gwyddonol arloesol i gynorthwyo i ddiagnosis clefydau sy’n ymwneud a phroblemau anadlu. Byddwn yn dangos sut y gall newidiadau yng nghynnwys protein, cemeg a microbioleg ym mhoer neu salifa claf darparu dealltwriaeth allweddol a all lywio arferion clinigol a gweithredu fel llwyfan ar gyfer meddygaeth bersonol.
Yn agored i staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth a BIP Hywel Dda. Os hoffech chi fod yn siaradwr yn y seminar cyfres, cysylltwch â rural-health@aber.ac.uk