Ymchwil newydd ar recriwtio nyrsys gwledig Rhannu 09 Ionawr 2018

Bydd yr heriau o recriwtio nyrsys i weithio yn y Gymru wledig yn cael eu harchwilio mewn astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Angharad Jones, myfyrwraig PhD a’r nyrs gofrestredig, yn ymchwilio i pam bod nyrsys yn fwy tebygol o wneud cais i weithio mewn ardaloedd trefol.

Fel rhan o’i phrosiect doethur, mae Angharad yn galw ar nyrsys ledled Cymru i rannu eu rhesymau dros benderfynu ble i wneud cais am swydd.

Un o’r materion y bydd hi’n ystyried bydd y berthynas rhwng lle mae nyrsys yn gweithio, lle cawsont eu magu a lle cawsont eu hyfforddi.

“Mae recriwtio a chadw staff nyrsio yn broblem gynyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ogystal ag ardaloedd gwledig arall,” meddai Angharad, sy’n astudio rhan-amser ar gyfer ei PhD tra’n gweithio fel nyrs gofrestredig yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Nod fy ymchwil yw adnabod y ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau nyrsys i ddewis ble i weithio a byw, gan ystyried rhesymau personol a phroffesiynol. Bydd yr astudiaeth hefyd yn cynnig awgrymiadau ac atebion eraill i fynd i’r afael â’r heriau gofal iechyd hyn a gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau.”

Mae’r prosiect ymchwil yn cael ei oruchwylio ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil Gofal Iechyd Gwledig, a Dr OJ Jiaqing o’r Adran Seicoleg.
“Mae’r PhD hon yn un o ystod o brosiectau ymchwil arloesol a dylanwadol sy’n cael eu cynnal yn y Ganolfan i hysbysu darpariaeth gofal iechyd gwledig ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol,” meddai Dr Rahman.

“Mae llawer o ymchwil wedi’i wneud i’r ffactorau sy’n rhwystro recriwtio gweithwyr gofal iechyd i ardaloedd gwledig mewn gwledydd fel Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau. Er y gellir uniaethu â llawer o’r heriau a’r problemau yn y gwledydd hynny gyda’r sefyllfa sydd yng Nghymru, mae graddfa’r broblem â’r cyd-destun diwylliannol yn wahanol. Bydd yr ymchwil newydd hwn yn rhoi golwg fanylach a phwysig i ni ar yr heriau penodol yr ydym yn eu gwynebu yn y Gymru wledig ac yn ein cynorthwyo i ddatblygu atebion priodol.”

Mae’r prosiect PhD yn derbyn cyllid gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW), sydd yn Aberystwyth.

Dywedodd Rheolwr Prosiect RHCW, Anna Prytherch: “Un o brif amcanion Iechyd Gwledig a Gofal Cymru yw darparu canolbwynt ar gyfer datblygu a choladu ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i iechyd a lles mewn ardaloedd gwledig. Bydd yr ymchwil newydd hwn gan Brifysgol Aberystwyth yn ychwanegu at y dystiolaeth sy’n ymwneud â’r drafodaeth o amgylch gofal iechyd gwledig ac yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach inni o’r materion craidd y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw.”

Os ydych chi’n nyrs sy’n gweithio yng Nghymru a hoffech gyfrannu at y prosiect ymchwil hwn, cysylltwch ag Angharad Jones caj41@aber.ac.uk.