Mae’r gyfres seminarau yn cynnig cyfle i ddod â rhwydwaith ehangach o bobl sydd â diddordebau mewn iechyd gwledig a gofal cymdeithasol ynghyd i rannu eu hymchwil, neu gyfleoedd ar gyfer ymchwil.
Cyflwynir seminarau gan academyddion Prifysgol Aberystwyth, staff lleol o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â siaradwyr allanol gyda’r bwriad o gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol gydweithredol.
Mae croeso cynnes i bawb.
Os hoffech gynnig bod yn siaradwr neu os hoffech gael rhywfaint o wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â ruralhealth@aber.ac.uk
Ceir gwybodaeth am yr amserlen yma, gyda manylion am bob seminar pob mis isod.
Mawrth: Kimberly Walker a Dr SImon Payne, Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth;
An Exploration into the psychological challenges that cancer nurse specialists face in their roles.
Chwefror: Helen Howson, Comisiwn Bevan; Creating a climate to drive Innovation and Transformation
Ionawr: Dr Linda Price, Worcester University; Blood in the Soil: Exploring farming men’s emotional ‘farmscapes’ in the UK through creative methodologies.
I glywed cyflwyniad Linda, dilynwch y ddolen hon https://aberystwyth.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=440b3af8-e068-457b-ab22-ab4400d78e6b